P-05-839 Dylid troi canllawiau Sefydliad Iechyd y Byd ynghylch llygredd aer yn gyfraith yng Nghymru a chyflwyno Deddf Aer Glân newydd i Gymru
Cyflwynwyd y ddeiseb hon gan British Heart Foundation Cymru, ar ôl casglu 688 o lofnodion.
Geiriad y ddeiseb
Rydym yn galw ar i Gynulliad Cenedlaethol
Cymru annog Llywodraeth Cymru i droi canllawiau Sefydliad Iechyd y
Byd (WHO) ynghylch llygredd aer yn gyfraith yng Nghymru, a
chyflwyno Deddf Aer Glân newydd i Gymru.
Nid yw'r terfynau cyfreithiol presennol ar gyfer ansawdd aer yng
Nghymru yn diogelu iechyd. Mae terfynau'r UE, a ddefnyddir gan
Lywodraeth y DU a chan Lywodraeth Cymru, yr un fath â'r
terfynau canllaw uchaf a argymhellir gan y WHO ar gyfer nitrogen
deuocsid (NO2), ond maent yn llai llym na throthwy'r WHO ar gyfer
llygryddion eraill sy'n niweidiol i iechyd megis deunydd gronynnol
mân (PM2.5).
Mae Sefydliad Prydeinig y Galon Cymru yn galw ar i Lywodraeth Cymru droi canllawiau'r WHO yn gyfraith yng Nghymru, a hynny drwy gyflwyno Deddf Aer Glân newydd i Gymru a fyddai'n mynd i'r afael â phrif ffynonellau llygredd aer a sicrhau bod pawb, o'r Llywodraeth a llywodraeth leol i fusnesau a'r cyhoedd, yn cydweithio i fynd i'r afael â'r argyfwng iechyd brys hwn.
Gwybodaeth Ychwanegol
Ymchwil a ariannwyd gan Sefydliad Prydeinig
y Galon oedd yr ymchwil gyntaf i brofi bod dod i gysylltiad ag aer
o ansawdd gwael yn y tymor byr a'r tymor hir yn gallu achosi
problemau cardiofasgwlaidd difrifol a'u gwneud yn waeth.
Cadarnhaodd ein hymchwil fod cysylltiad clir rhwng clefyd
cardiofasgwlaidd a dod i gysylltiad â gronynnau tra mân
PM2.5, a bod anadlu gronynnau mân yn gallu cynyddu'r risg i
grwpiau bregus o gael trawiad ar y galon neu strôc o fewn 24
awr.
Amcangyfrifodd Iechyd Cyhoeddus Cymru fod llygredd aer ym 2017 yn
cyfrannu at 2,000 o farwolaethau cynnar yng Nghymru. Gorchmynnwyd i
Lywodraeth Cymru fynd i'r afael â lefelau anghyfreithlon o
nitrogen deuocsid, ond nid oes eto gynllun i fynd i'r afael â
deunydd gronynnol, ac ychydig iawn o fanylion sydd ynghylch sut y
bydd y Llywodraeth yn gwella'r gwaith monitro llygryddion ledled
Cymru.
Byddai Deddf Aer Glân newydd i Gymru yn:
· Sicrhau bod cyfraith Cymru yn defnyddio canllawiau'r WHO ar gyfer llygredd aer;
· Cyflwyno ffioedd Barthau Aer Glân mewn ardaloedd sy'n torri neu sy'n agos at y terfynau ar gyfer nitrogen deuocsid a deunydd gronynnol, a neilltuo'r arian ar gyfer gwella ansawdd yr aer ymhellach;
· Sicrhau bod seilwaith a thechnoleg ar waith fel y gallai mwy o bobl ddefnyddio Cerbydau Allyriadau Tra Isel a thrafnidiaeth gyhoeddus;
· Buddsoddi mewn gwell monitro llygredd ledled Cymru, a sicrhau bod gwybodaeth am y risgiau i iechyd ar gael i grwpiau bregus;
· Codi ymwybyddiaeth y cyhoedd o effaith llosgi coed yn y cartref ac o'r camau y gellir eu cymryd i'w lleihau.
Etholaeth a Rhanbarth y Cynulliad
· Canol Caerdydd
· Canol De Cymru